Etholiad Senedd Ewrop, 2019 (DU)

Map o'r canlyniadau
Map o'r blaid a enillodd fwyaf o bleidleisiau ym mhob ardal gyfri.

Cynhaliwyd Etholiad Senedd Ewrop yn y Deyrnas Unedig, sy'n rhan o Etholiadau Senedd Ewrop 2019, ar ddydd Iau, 23 Mai 2019 a chyhoeddwyd y canlyniadau cyntaf ar y dydd Sul dilynol.[1][2] Yng Nghymru, bu 37.1%, o'r etholwyr yn bwrw eu pleidlais: 5.6% yn uwch na'r etholiad diwethaf yn 2014 a daeth y Blaid Lafur yn drydydd, Plaid Cymru'n ail a Phlaid Brexit yn cipio dwy sedd.

Nid oedd fawr o gynllunio wedi bod ar gyfer yr etholiad, gan fod y Deyrnas Unedig wedi bwriadu gadael yr Undeb Ewropeaidd (yn dilyn Refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, 2016) ar 29 Mawrth 2019. Fodd bynnag, yn yr uwchgynhadledd Ewropeaidd ar 11 Ebrill 2019 cytunodd llywodraeth Prydain a'r Cyngor Ewropeaidd i ohirio gadael tan 31 Hydref 2019, er mwyn rhoi mwy o amser i ddod i gytundeb parthed Brexit. Er mai dyna oedd y sefyllfa, sef i'r etholiad ddigwydd, parhaodd Llywodraeth y DU i geisio osgoi cymryd rhan trwy gytuno ar dynnu'n ôl cyn 23 Mai. Ar 7 Mai 2019, cyfaddefodd llywodraeth y DU y bydd yr etholiad yn mynd yn ei flaen.[3]

Penderfyniad y DU i dynnu'n ôl o'r Undeb Ewropeaidd oedd mater canolog yr ymgyrch etholiadol. Cafwyd pegynu barn mwy eithafol, hyd yn oed, nag Etholiad Senedd Ewrop, 2014 (pan gafodd UK Independence Party lwyddiant ysgubol). Yng Nghymru collodd y Llafur a'r Ceidwadwyr a daeth Plaid Cymru'n ail (gyda chynnydd o dros 4%) a'r blaid newydd sbon, Plaid Brexit yn gyntaf. Yn yr Alban, cynyddodd pleidlais y cenedlaetholwyr, yr SNP, dros 8% a gwelwyd eu llwyddiant yn bleidlais dros barhau'n rhan o Ewrop ac yn bleidlais dros annibyniaeth. Aflwyddiannus oedd y blaid newydd Plaid Annibyniaeth y DU, ac ni chawsant un AE. Trosgwlyddwyd pleidleisiau Llafur a Cheidwadwyr, yn Lloegr, i'r Blaid Werdd a'r Rhyddfrydwyr.

Yr etholiad hwn oedd y nawfed tro i wledydd y Deyrnas Unedig (DU) ethol Aelodau Senedd Ewrop (ASEau). Cyflwynwyd enwebiadau ymgeiswyr erbyn 16:00 ar 25 Ebrill 2019, a chwblhawyd cofrestru pleidleiswyr ar 7 Mai 2019.[4][5]

Mae'n ansicr pa mor hir, os o gwbl, y bydd ASEau gwledydd Prydain yn eistedd cyn i'r broses dynnu'n ôl o Ewrop gael ei chwblhau, gan fod y cytundeb ymestyn yn darparu ar gyfer terfynu cynnar cyn gynted ag y caiff y cytundeb tynnu'n ôl ei gadarnhau. Penderfyniad y DU i dynnu'n ôl o'r Undeb Ewropeaidd oedd mater canolog yr ymgyrch etholiadol.[6]

  1. "Ministers set for further Brexit talks". BBC News. 8 Ebrill 2019.
  2. golwg360.cymru' adalwyd 15 Mai 2019.
  3. independent.co.uk; adalwyd 15 Mai 2019.
  4. "European Parliamentary elections in Great Britain" (PDF). The Electoral Commission (UK). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2019-04-30. Cyrchwyd 13 Ebrill 2019.
  5. "Types of election, referendums, and who can vote". GOV.UK. HM Government. Cyrchwyd 13 Ebrill 2019.This article contains quotations from this source, which is available under the Open Government Licence v3.0 © Crown copyright
  6. Helm, Toby (6 April 2019). "The Independent Group looks to European elections for breakthrough". The Guardian.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne